| gwasanaethau |
 |
| Mae Pawb yn rhoi atebion hyblyg i anghenion
ein cleientiaid. Gyda staff profiadol ac agored, rydym
yn fodlon sgwrsio gyda chi am unrhyw brosiect, gyda’r
nod o allu cynnig ateb fydd yn adlewyrchu beth ydych yn
ceisio ei gyflawni a maint eich cyllid.
Ceir esiamplau isod o’r mathau gwahanol o wasanaethau
rydym yn ei gynnig; tydi’r rhestr ddim yn un trylwyr
gan ein bod yn addasu ein gwasanaethau yn ôl anghenion
bob cleient a chynulleidfa.
Am fwy o wybodaeth am brosiectau diweddar, cerwch i’n
adran newyddion neu adran brosiectau. |
| |
| Rheoli prosiectau & ymgyrchoedd |
| Gallwn gynnig gwasanaeth rheoli prosiectau
wedi ei deilwra’n union i’ch anghenion fel
cleient, yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad mewn meysydd
amrywiol. Yn fawr neu fach, gallwch fod yn hyderus fydd
Pawb yn gallu cynllunio, cydlynu a chyflawni eich prosiect.
Mae ein cleientiaid yn cynnwys darlledwyr, cwmnïau
cynhyrchu, undebau a mudiadau gwirfoddol. |
| |
| Gwasanaethau ategol i’r cyfryngau
a’r sector gwirfoddol |
| Mae Pawb yn gweithio’n agos gydag
ystod o gwmnïau a mudiadau yn y cyfryngau a’r
sector gwirfoddol. Mae gennym brofiad o redeg cyrsiau
hyfforddi arbenigol, ymgyrchoedd cysylltiadau cyhoeddus
ac ymgyrchoedd hel gwybodaeth, yn ogystal â gwasanaethau
craidd i raglenni, megis llinellau cymorth, llinellau
pleidleisio neu wasanaethau tecstio. |
| |
| Gwasanaethau ymchwil |
| Mae gan Pawb adnoddau ymchwil ar amrywiaeth
mawr o bynciau gwahanol, sy’n cael eu hadnewyddu
bob tro mae prosiect newydd yn cael ei gomisiynu. Mae’r
adnoddau yma yn cynnwys gwybodaeth ar ôl rhaglenni
am bynciau cymdeithasol fel edrych ar ôl yr henoed
neu broblemau cyffuriau h.y. gwasanaethau i wylwyr gysylltu
am gefnogaeth bellach, neu wybodaeth ychwanegol ar ôl
rhaglenni dogfen hanesyddol e.e. ar sut i hel achau neu
ar gyfnod hanesyddol penodol. Mae gennym hefyd y dechnoleg
a’r gallu i redeg ymchwil dros y ffôn unai
yn fyw neu yn awtomatig. |
| |
| Gwasanaethau telemarchnata & SMS |
| Mae gan Pawb ddewis o rifau 0800 a 0845
sy’n cael eu defnyddio ar gyfer llinellau cymorth,
cystadlaethau byw a rhaglenni ffonio i mewn. Mae gennym
linellau gwybodaeth wedi eu recordio fel fod pobl yn gallu
ffonio i wrando am wybodaeth perthnasol mewn pwnc penodol.
Gallwn gynnig gwasanaethau SMS i gystadlaethau ac ymgyrchoedd
cysylltiadau cyhoeddus yn ôl eu haddasrwydd, yn
ogystal â rhifau sy’n codi arian. |
| |
| Cynnwys i’r we, llyfrynnau a
thaflenni |
| Mae gan Pawb hanes sylweddol o ymchwilio
ac ysgrifennu cynnwys ar amrywiaeth mawr o bynciau i gyd-fynd
gyda rhaglenni teledu, o faterion cyfoes i ddrama neu
raglenni hanesyddol, yn ogystal ag ymchwilio ac ysgrifennu
i fudiadau gwirfoddol. Gellir defnyddio cynnwys fel hyn
ym mha bynnag gyfrwng mae’r cleient ei angen yn
ôl y prosiect. |
| |
| Llinellau cymorth, cystadleuaeth a
phleidleisio |
| Gyda chanolfan galw o faint rhesymol,
rydym yn gallu cynnig llinellau cymorth byw ar ôl
rhaglenni, gyda staff arbenigol a pherthnasol i’r
pwnc wrth law os yn fater cymdeithasol sensitif. Gallwn
hefyd gynnig llinellau byw neu awtomatig i bopeth o gystadlaethau
plant i gystadlaethau talent cenedlaethol. |
| |
| CYSYLLTWCH
 PAWB HEDDIW |
| |
|
 |
| Monitro a gwerthuso |
 |
| Mae Pawb, ynghyd a OldBell3 ac equalta, |
| |
| Flexicurity |
 |
| Mae Pawb yn cydweithio gyda Sefydliad Be |
| |
 |
| Mwy o waith gwerthuso i Pawb |
 |
| Mewn partneriaeth ag Old Bell 3 (y prif |
| |
| Pawb a strategaeth busnes |
 |
| Mae Pawb, fel un o partneriaid menter In |
| |
| Pawb ac S4C |
 |
| Mae Pawb wedi cyflenwi ystod o wasanaeth |
| |
|