Mae ein cleientiaid yn cynnwys darlledwyr,
cwmnïau cyfryngol, elusennau, busnesau a chyrff
cyhoeddus.
Rydym yn gweithredu drwy greu ffyrdd hyblyg i’n
cleientiaid gysylltu a rhyngweithio gyda’u cynulleidfaoedd,
dim ots pa mor eang neu benodol.
Mae ein gwasanaethau’n cynnwys rheoli prosiectau
o bob math, llinellau cymorth, llyfrynnau a thaflenni,
cynnwys i’r we a gwasanaethau SMS. Rydym yn ymchwilio
a chyflawni prosiectau yn ddwyieithog mewn ystod o gyfryngau
gwahanol, gan fod cyfryngau’n newid a datblygu
yn barhaus.
Gallwn weithio yn hyderus mewn sawl maes gwahanol,
yn cynnwys darlledu a chyhoeddi, materion cymdeithasol,
addysg, cydraddoldeb, cefnogaeth busnes, diwylliant
ac adloniant.
|