Gofod gwag
Botwm iaith
Gofod gwag
Botwm amdanom ni
Blank space
Botwm prosiectau
Blank space
Botwm gwasanaethau
Blank space
Botwm newyddion
Blank space
Botwm lawrlwytho
Blank space
Botwm cyswllt
Gofod gwag
amdanom ni
HANES \\ BYWGRAFFIADAU & BLOGIAU
Bywgraffiadau & Blogiau
Sian Gale

Siân yw un o’r ddau gyfarwyddwr a sefydlodd Pawb. Ei phrif rôl o fewn y cwmni yw i ehangu’r busnes drwy ddatblygu prosiectau newydd ac i roi arweiniad strategol ar weithgareddau’r cwmni. Mae hi hefyd yn darparu cefnogaeth i fusnesau newydd a hyfforddiant busnes i unigolion.

Dechreuodd Siân ei gyrfa yn y cyfryngau drwy weithio yn adran cynhyrchu HTV Cymru. Gadawodd y darlledwr i weithio fel Rheolydd Cynhyrchu llawrydd yn arbenigo mewn dogfen a drama. Trwy ei brwdfrydedd am deithio a diwylliannau eraill mae hi wedi gweithio ar ystod o raglenni dogfen, yn cynnwys rhai ar yr Indiad Cree yng Nghanada, gweithfeydd dur yn yr Ukraine a cherddoriaeth ym Mali a Senegal. Mae ganddi radd mewn cymdeithaseg a gwleidyddiaeth ac mae hi wedi gweithio ar raglenni dogfen amrywiol iawn fel Rheolydd Cynhyrchu/ymchwilydd, yn cynnwys rhaglen ar Pwll Glo Tower yn Ne Cymru, merched yn y carchar, trais yn y cartref a iechyd meddwl.

Yn dilyn ei gyrfa yn y cyfryngau, ymunodd Siân gyda’r elusen darlledu BSS, ble ddaeth yn rheolydd dros Gymru. Prif weithgareddau’r elusen oedd darparu gwybodaeth a chefnogaeth i wylwyr teledu a gwrandawyr radio, yn ogystal â rheoli Gwifren Gwylwyr S4C. Cyfarfu ei chyd-gyfarwyddwr Aelwyn Williams yno. Yn dilyn ail strwythuro o fewn yr elusen yn 2002, gwelodd y ddau gyfle i sefydlu eu cwmni eu hunain, sef Pawb.

Mae Siân hefyd wedi bod yn gweithio’n uniongyrchol ar brosiect llwyddiannus Potentia, gynt o dan Awdurdod Datblygu Cymru ac yn fwy diweddar o fewn Llywodraeth y Cynulliad. Nod y prosiect yw i helpu grwpiau sydd wedi ei dan gynrychioli o fewn byd busnes i sefydlu mentrau newydd a darparu ymgynghoriaeth a hyfforddiant arbenigol i ddarparwyr cefnogaeth busnes. Mae hyn wedi rhoi siawns i Siân defnyddio a ddatblygu ymhellach ei sgiliau ym meysydd cydraddoldeb, amrywioldeb a chefnogaeth busnes yn ogystal ag adeiladu cysylltiadau allweddol yn y meysydd yma drwy’r Deyrnas Unedig ac ar lefel rhyngwladol.

 
Aelwyn Williams

Aelwyn yw yn o cyd sefydlwyr Pawb, ac mae’n arwain ar gynllunio a chyflawni llawer o brosiectau y cwmni, yn ogystal â rhedeg y busnes o ddydd i ddydd. Mae hefyd yn gyfrifol am ddatblygu prosiectau newydd a goruchwylio agweddau technegol a thechnolegol y cwmni.

Yn wreiddiol o Wynedd, bu’n byw a gweithio mewn amryw i ddinas a gwlad cyn setlo yng Nghaerdydd. Yn ogystal â’r Gymraeg, mae’n rhugl mewn Sbaeneg, ar ôl gweithio fel athro a chyfieithydd yng Ngwlad y Basg am bum mlynedd. Astudiodd ym Mhrifysgol Leeds am ei radd cyntaf yn ogystal â’i waith ôl radd, a ganolbwyntiodd ar effeithiolrwydd polisïau addysg ddwyieithog.

Ar ôl dychwelyd i Gymru, ymunodd a’r elusen ddarlledu BSS fel swyddog prosiectau, gan gymeryd cyfrifoldeb dros redeg Gwifren Gwylwyr S4C a phrosiectau amrywiol eraill, yn cynnwys gwaith corfforaethol ar lefel y DU i’r elusen. Mae gan Aelwyn brofiad rheoli prosiectau eang iawn, gan iddo gydlynu, recriwtio, goruchwilio a chyflawni gwaith ar llu o wasanaethau, o linellau cymorth dros dro i wasanaethau ffôn a tecstio ym mron bob maes darlledu. Mae ganddo brofiad cynhyrchu ac wedi arfer gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu a’r darlledwyr. Caiff llawer o foddhad wrth ymchwilio ac ysgrifennu deunydd i raglenni dogfen a newyddion, ac mae’n gyfrifol am bortffolio o wefanau a phrosiectau wedi eu cyflawni i S4C a’r BBC.

Mae Aelwyn hefyd yn ymwneud yn helaeth gyda’r sector gwirfoddol a mentrau cymunedol amrywiol, gan lywyddu grwpiau adnewyddu lleol a chymeryd rhan blaenllaw ar bwyllgor rheoli elusen gyffuriau llwyddiannus yng Nghaerdydd, yn ogystal â chyfrannu i grwpiau ymchwil a chynadleddau yn y sector.

 
Monitro a gwerthuso
Mae Pawb, ynghyd a OldBell3 ac equalta,
MWY.... «
Flexicurity
Mae Pawb yn cydweithio gyda Sefydliad Be
MWY.... «
Mwy o waith gwerthuso i Pawb
Mewn partneriaeth ag Old Bell 3 (y prif
MWY.... «
Pawb a strategaeth busnes
Mae Pawb, fel un o partneriaid menter In
MWY.... «
Pawb ac S4C
Mae Pawb wedi cyflenwi ystod o wasanaeth
MWY.... «
HOME | ABOUT | PROJECTS | SERVICES | NEWS | DOWNLOADS | CONTACT
Ty Oldfield, Llantrisant Road, Llandaf, Caerdydd, CF5 2YQ
tel: 029 2032 2967 e: pawb@pawb.org