|
Sefydlwyd Pawb gan ei ddau gyfarwyddwr
ym mis Medi 2002. Rhyngddynt, mae yna brofiad eang ym
myd darlledu, y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus.
Cwmni dielw sy’n gyfyngedig drwy warrant yw Pawb.
O’r dechrau, ein nod oedd i gyflenwi gwybodaeth
dealladwy, diduedd i unigolion a grwpiau fel iddynt
allu gwneud dewisiadau cytbwys. Rydym wedi ymdrin ag
ystod eang o bynciau a materion cymdeithasol dros y
blynyddoedd: rhai diarbed fel trais yn y cartref neu
broblemau cyffuriau, eraill yn fwy addysgiadol a hamddenol
eu naws, megis sut i hel achau, merched mewn chwaraeon
neu bleidleisio am eich ffefryn mewn sioe dalent ar
y teledu.
Ers sefydlu yn 2002, mae’r prosiectau yma wedi
bod yn amrywiol iawn, gyda rhai yn cael eu cyflawni
ar sail elusennol neu gymdeithasol sensitif, tra bod
eraill yn gwbl fasnachol. Mae bob un gwasanaeth ar gael
yn y Gymraeg a’r Saesneg, yn ogystal â ieithoedd
eraill yn ôl yr angen.
Dangoswyd dros y blynyddoedd mai un o gryfderau Pawb
yw ein bod yn creu cysylltiad cryf rhwng y cleient a’r
gynulleidfa, ond hefyd rhwng mudiadau a sectorau gwahanol,
yn enwedig y cyfryngau a’r sector dielw.
|